Dr Gwilym Owen
Mae pawb sy'n gysylltiedig 芒 Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn drist iawn o glywed am farwolaeth Dr Gwilym Owen ar 11 Awst 2026. Tan yn ddiweddar iawn, roedd Gwilym yn Uwch Ddarlithydd Cyfraith Eiddo, Ecwiti ac Ymddiriedolaethau ym Mhrifysgol Bangor. Cyn hynny, bu Gwilym yn gweithio am 30 mlynedd fel cyfreithiwr yng ngogledd Cymru, gan arbenigo mewn ymgyfreitha eiddo, cyn cael ei benodi鈥檔 ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor yn 2011. Enillodd ei ddoethuriaeth trwy gyhoeddiad yn 2017. Roedd gan Gwilym arbenigedd mewn hanes cyfreithiol Cymru a chyfraith tir, a bu鈥檔 aelod allweddol o d卯m Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, ac yn un o'n cefnogwyr mwyaf brwd, am dros ddegawd.
Yn ystod ei yrfa academaidd, cynhyrchodd gasgliad diddorol iawn o waith yn canolbwyntio ar drawsnewidiad a chydgymysgedd cyfraith a diwylliant cyfreithiol Cymru a Lloegr 鈥 yn enwedig mewn perthynas 芒 chyfraith tir ac arferion etifeddiaeth 鈥 yng Nghymru ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, yn sgil Deddf Uno 1536 a 1543, ac ymhell wedi hynny.
Roedd y gwaith hwn yn sail i lawer o'r cydweithio a'r cyfeillgarwch a oedd yn diffinio agwedd Gwilym at ymchwil a chyhoeddi.
Roedd nifer o gyhoeddiadau cynnar Gwilym yn trafod deinameg cyfraith eiddo ganoloesol Cymru, gan gynnwys gweithrediad cyfran (etifeddiaeth ranadwy) a thir gwelyog (tir etifeddol), a defnydd y boneddigion o drosglwyddiad tir prid i adeiladu eu hystadau.
Roedd hyn yn sail i gydweithrediad ffrwythlon gyda'r Athro Huw Pryce, sef 'Medieval Welsh Law and the Mid-Victorian Foreshore', a gyhoeddwyd yn y Journal of Legal History, a ddadansoddodd ddefnydd Cyfraith Hywel mewn achos cyfreithiol ym 1862 yngl欧n 芒 hawliau defnyddio blaen traeth yn Ynys M么n, mewn cysylltiad ag yst芒d Brynddu.
Roedd parhad cyfraith Cymru, neu o leiaf gadwraeth meddylfryd cyfreithiol Cymreig, ar 么l uno Cymru a Lloegr yn wleidyddol a chyfreithiol yng nghanol yr unfed ganrif ar bymtheg, yn bwnc ymchwil pwysig, a drafodwyd gan Gwilym trwy gyhoeddiadau a phapurau cynhadledd ar batrymau anheddu a'r 'Welsh Mortgage'. Yn y gweithiau hyn, dadleuodd yn gryf fod Cymru yn y cyfnod canoloesol hwyr a Thuduraidd (cyn ac ar 么l y Ddeddf Uno) yn cael ei nodweddu gan gydfodolaeth a rhyngweithio cyfraith Cymru a Lloegr. Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae Gwilym wedi gweithio gyda'r hanesydd cyfreithiol Pwylaidd, Dr 艁ukasz Korporowicz, i nodi gwahaniaethau a chymariaethau hanesyddol rhyngwladol sy'n ymwneud 芒 defnyddio setliad, cyfraith encil a mathau o forgais.
Mewn cydweithrediad hir a ffrwythlon gyda'r archifydd Peter Foden, defnyddiodd Gwilym gofnodion ystadau (a gedwir gan Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, yr Archifau Cenedlaethol a sefydliadau eraill) i wneud dadansoddiad manwl o arferion anheddu ac anghydfodau etifeddiaeth ar ystad Penrhyn teulu Gruffydd yn ystod y bymthegfed ganrif a'r unfed ganrif ar bymtheg, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Hanes Cyfreithiol Cymru yn 2019 gyda鈥檙 teitl, At Variance: The Penrhyn Entail. Cyhoeddir cyfrif hanesyddol mwy cyflawn o'r ffrae gyfreithiol hirhoedlog dros Benrhyn, gwaith ar y cyd 芒 Peter Foden unwaith eto, yn fuan yn y Transactions of the Caernarvonshire Historical Society.
Dilynodd Gwilym ei astudiaeth o entael Penrhyn gydag archwiliad o'r ymgyfreitha a oedd ynghlwm wrth amrywiol briodasau Edward Griffith (m.1540) o Benrhyn, gan weithio gyda'r Athro Rebecca Probert i roi cyd-destun i ddull Griffith gan gyfeirio at gyfraith ganoloesol Cymru a 'Great Matter' Harri VIII, a oedd yn canolbwyntio ar ymdrechion i ddirymu ei briodas 芒 Catherine o Aragon.
Pwysleisiodd yr astudiaethau hyn i Gwilym werth cofnodion ystadau i hyrwyddo dealltwriaeth o ddefnydd ac arferion y gyfraith yn y byd go iawn yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol hwyr a'r cyfnod modern cynnar. Gan weithio mewn partneriaeth 芒 Dr Shaun Evans, Dr Julie Mathias a Dr Sarah Higgins, arweiniodd gyfres o weithdai i Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, gyda chyllid gan yr ESRC, ar archifau ystadau, yn Archifau Morgannwg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Bangor. Yn ddiweddarach, datblygodd yr ymchwil hwn trwy gais (aflwyddiannus) i'r AHRC a fyddai wedi defnyddio gweithredoedd teitl fel sail i astudiaeth arloesol o ymgysylltiad merched 芒 chyfraith eiddo a diwylliant cyfreithiol, yng Nghymru yn y bymthegfed ganrif a'r unfed ganrif ar bymtheg.
Canolbwyntiodd gydweithrediad arall, gyda Dr Nerys Llewelyn Jones, ar yr ymgyrch ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg dros ddeddfwriaeth amaethyddol ar wah芒n i Gymru, gan ganolbwyntio ar yr achos dros Lys Tir i Gymru a thrafodion y Comisiwn Brenhinol ar Dir yng Nghymru. Bu Gwilym hefyd yn gweithio'n agos gyda'i gydweithiwr Dr Marie Parker-Jones ar ymchwil i egwyddor gyfreithiol 'estopel perchnogol', gan archwilio ei darddiad trwy achos cyfreithiol ym 1862 (Dillwyn v Llewelyn) a oedd yn canolbwyntio ar ystad Hendrefoelan yn Abertawe. Yn 2025, cydweithiodd Gwilym 芒 Peter Foden eto ar ymchwil i hanes maenorau a chofnodion maenoraidd Cymru. Cyflwynwyd y gwaith ganddynt mewn cynhadledd arbennig a drefnwyd gan Brifysgol Caergrawnt i ddathlu 100 mlynedd o ddeddfwriaeth eiddo 1925.
Roedd Gwilym yn Gymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol ac yn aelod o Gymdeithas Hanes Cyfraith Cymru, Cymru'r Gyfraith, Cymdeithas Hanes Cyfreithiol Ewrop a Chymdeithas Hanes Cyfreithiol Cymharol Ewrop. Gwasanaethodd fel Is-siryf Gwynedd rhwng 2017 a 2023. Roedd yn hynod falch o fod yn aelod o G么r y Penrhyn, ac ysgrifennodd hanes y c么r yn ddiweddar, sydd ar gael ar ei wefan.
Ymddeolodd o'i swydd ym Mhrifysgol Bangor yn y gwanwyn yn 2026, ar 么l cael diagnosis o ganser terfynol.
Ar 30 Gorffennaf 2026, cynhaliodd Prifysgol Bangor ddarlith arbennig er anrhydedd i Gwilym, a gyd-gynhaliwyd gan Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Cymdeithas Hanes Cyfraith Cymru ac Ysgol y Gyfraith Gogledd Cymru 鈥 tri o鈥檙 sefydliadau a fu鈥檔 鈥榞artref鈥 iddo yn ystod ei yrfa academaidd. Traddodwyd y ddarlith gan yr Athro Gwen Seabourne, Athro Hanes Cyfreithiol ym Mhrifysgol Bryste, ar y thema 'Mystery, Mortgages and More: A View of Welshness, Land and Law鈥.
Daeth y ddarlith ag amrywiol diddordebau ysgolheigaidd Gwilym ynghyd yn wych, gan drafod natur a defnydd y 'Welsh Mortgage' a chyfeirio at ymchwil pellach yn hanes cyfreithiol a chyfraith tir Cymru a all ddatblygu o'r sylfeini a godwyd trwy ymdrechion Gwilym. I'r perwyl hwn, yn 2025, rhoddodd Gwilym gasgliad bach ond arwyddocaol o'i lyfrau hanes cyfreithiol i Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, er mwyn i waddol ei ysgolheictod barhau am flynyddoedd i ddod.
Roedd yn hyfryd cael Gwilym yn bresennol fel gwestai anrhydeddus ar achlysur arbennig iawn, gyda'i deulu a chynifer o'i ffrindiau, cydweithwyr a chyn-fyfyrwyr yn bresennol. Agorodd Dr Shaun Evans o Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru y digwyddiad trwy ddiolch i Gwilym am ei gyfraniadau lu i Brifysgol Bangor a'r cymunedau gwybodaeth, dysgu ac ymchwil a adeiladodd o'i amgylch yn ystod ei yrfa academaidd. Roedd dull cydweithredol a cholegol Gwilym o ymchwilio, ei barodrwydd i rannu ei arbenigedd ag eraill, ei frwdfrydedd dros ei bwnc, ei garedigrwydd, ei hiwmor, a'i barodrwydd parhaus i ddysgu, yn nodweddiadol o bopeth y dylai'r byd academaidd fod.
Daeth Dr Hayley Roberts, Pennaeth newydd Ysgol y Gyfraith Gogledd Cymru, ac un o gyn-fyfyrwyr Gwilym, 芒'r ddarlith arbennig i ben trwy fyfyrio ar ei gyfraniad enfawr at d卯m y Gyfraith ym Mangor, hoffter ei fyfyrwyr tuag ato, a'i garisma wrth ddod ag addysgu hanes cyfreithiol yn fyw yn y ddarlithfa. Cyflwynodd Dr Roberts Ddarllenyddiaeth er Anrhydedd i Gwilym, ar ran y brifysgol.
Codwyd dros 拢2,500 mewn rhoddion at D卯m Nyrsio Ardal Arfon trwy Elusen GIG Gogledd Cymru, Awyr Las, fel rhan o'r digwyddiad.
Bydd colled fawr ar 么l Gwilym.
Roedd yn ddyn arbennig iawn.
Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei wraig, Helen, ei fab, Gwyn, ei ferch, Manon, ei chwaer, Sian, ei fam, Heulwen, a'i holl deulu.
Heddwch i鈥檞 lwch.