Ymunwch â’n Llysgenhadon Llesiant Myfyrwyr am Daith Gerdded Lles ymlaciol, gan archwilio rhai o fannau lleol hardd Bangor, gan gynnwys y Gwersyll Rhufeinig, Pier Y Garth a Chaeau Ashley Jones.
Mwynhewch y golygfeydd a’r bywyd gwyllt, darganfyddwch fannau y gallech ymweld â nhw eto, a chymerwch ran mewn rhai gweithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar syml ar hyd y ffordd. Cyfle gwych i gwrdd â phobl newydd a mwynhau amser yn yr awyr
agored.
Dewch am dro, symudwch a chymerwch amser i ofalu am eich llesiant yn ystod yr Wythnos Groeso!