Darganfyddwch y cwrs Ffilm a'r Cyfryngau i chi
O Brifysgol Bangor i Fyd Creadigol House of the Dragon HBO
Yn ystod ei gyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Bangor, cafodd Kieran Samuel, a raddiodd mewn Ffilm a'r Cyfryngau, ymgymryd 芒 lleoliad 芒 th芒l ar House of the Dragon ar HBO.
Treuliodd Kieran chwe wythnos yn gweithio gydag adran goleuo鈥檙 cynhyrchiad, gan ennill profiad uniongyrchol o gynhyrchu teledu proffesiynol a dysgu gan arbenigwyr yn y diwydiant ar y set.
Cafodd ei leoliad ei sicrhau trwy bartneriaethau Prifysgol Bangor 芒 Chynghrair Sgrin Cymru fel rhan o fenter Cymru Greadigol, sy鈥檔 helpu myfyrwyr i sicrhau mynediad at gyfleoedd gwerthfawr yn y diwydiant gyda chyflogwyr blaenllaw.
Byddi鈥檔 gwneud mwy na dim ond dysgu am brofiad diwydiant ym Mhrifysgol Bangor. Byddi鈥檔 elwa ar y canlynol;
Partneriaethau diwydiant
Dysgu ymarferol, sy'n canolbwyntio ar yrfa
Cyfleoedd rhwydweithio proffesiynol
Archwilio Ffilm a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor i weld lle all dy radd dy arwain.u
Cefais brofiad anhygoel ar set House of the Dragon fel hyfforddai goleuo. Dysgais sut i beintio gyda goleuadau.
Dyma'r lle鈥
I ddod o hyd i dy lais. I ddatblygu dy grefft. I ddod 芒 syniadau newydd yn fyw.
Ym Mhrifysgol Bangor, bydd dy greadigrwydd yn dod yn fyw. Byddi鈥檔 dysgu gan academyddion profiadol a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, yn archwilio dy syniadau mewn cyfleusterau arbenigol, ac yn ymuno 芒 chymuned gefnogol.
P'un a wyt yn perfformio, yn cynhyrchu neu'n ymchwilio, byddi鈥檔 ennill y sgiliau, y profiad a'r hyder i gymryd dy gam nesaf.
Beth sy'n bosibl pan fydd creadigrwydd yn cwrdd 芒 chyfle.
Codi Cwr y Llen ar Stiwdio Ffilm a Theledu Weithredol
Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, cei gyfleoedd i gysylltu 芒'r diwydiant drwy ein partneriaeth 芒 Stiwdios Ffilm Aria. Byddi鈥檔 mentro y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth i ymweld 芒 set go iawn i ddysgu sut mae timau creadigol yn dod 芒 straeon yn fyw, ac i ennill cipolwg ar y daith o'r sgript i'r sgrin.
Cei fynd ar daith rithwir o set Rownd a Rownd a chael cipolwg y tu 么l i'r llenni.
Y Dderbynfa
Croeso i Stiwdios Aria yn Llangefni. Dyma鈥檙 dderbynfa foethus gyda鈥檙 murlun trawiadol o du allan yr adeilad a鈥檙 mynyddoedd yn y cefndir.
Y Stiwdio
Dyma ni yn stiwdio 2 - ble mae setiau tai rhai o gymeriadau'r gyfres 鈥楻ownd a Rownd鈥. Fe welwch fod y setiau gefn yn gefn er mwyn gwneud y mwyaf o鈥檙 gofod.
T欧 Dani
Rydym yn awr yn Nh欧 Dani, un o gymeriadau hir mwyaf poblogaidd y gyfres. Yma mae cegin a lolfa.
Sylwch mai dim ond hanner cyntedd sydd gan Dani 鈥 ni all y camera na chithau weld rownd y gornel! Mae drws ffrynt y t欧 ar y stryd ym Mhorthaethwy.
T欧 Si芒n
Dyma鈥檙 cyntedd yn nh欧 Si芒n. Sylwch nad ydi鈥檙 grisiau yn arwain i unman gan nad oes llofftydd yma. Mae hwn yn replica o d欧 go iawn yn Llandegfan - roedd yn rhaid ail greu'r gegin yn union gan nad oedd modd ffilmio ar leoliad oherwydd y pandemig.
Fflat Jason
Fflat Jason ydi hwn ac yn y stori mae鈥檙 lleoliad uwchben y T欧 Pizza sydd ar set y gyfres ym Mhorthaethwy.
Siop yr Iard
Dyma un o鈥檙 setiau mwyaf y stiwdio. Unwaith eto mae tu allan yr iard gychod i lawr wrth y Fenai ym Mhorthaethwy ond ail gr毛wyd y tu mewn er mwyn hwyluso'r ffilmio gan fod angen gymaint o brops ac ati i lenwi鈥檙 siop.
T欧 Arthur
Wrth i ni ymweld 芒 th欧 Arthur fe welwch weddill y setiau yn glir. Mae wal ar goll yma er mwyn creu gofod i鈥檙 criw ffilmio weithio gan fod y set ei hun yn gymharol fychan.
Ac o鈥檙 cyntedd eto fe welwch pa mor agos ydi鈥檙 setiau at ei gilydd yn y stiwdio.
T欧鈥檙 K鈥檚
Dyma d欧鈥檙 Ken a Kay. Mae鈥檙 t欧 go iawn ar y lot ym Mhorthaethwy ond roedd angen mwy o le oherwydd covid felly adeiladwyd y set yma i fod ychydig yn fwy na鈥檙 t欧 gwreiddiol er na fyddech chi yn sylwi hynny ar gamera.
O鈥檙 cyntedd fe gawn gip olwg i mewn i鈥檙 gegin hefyd.
T欧 Dylan a Sophie
Yn sicr dyma set grandiaf 鈥橰ownd a Rownd鈥 - t欧 moethus Dylan a Sophie. Fe gafodd yr Adran Gelf hwyl yn cynllunio hwn.
A dyma鈥檙 cyntedd, eto fe welwch nad yw鈥檙 grisiau yn arwain i unman a chewch gip olwg o鈥檙 lolfa.
Y Galeri
Yng nghornel o鈥檙 stiwdio mae ardal y galeri. Yma bydd y cyfarwyddwr a a gweddill y criw yn eistedd yn ystod y ffilmio. Byddant yn gwylio鈥檙 digwydd ar y sgriniau ac yn mynd yn 么l ag ymlaen ar y set yn 么l yr angen.
Gwisgoedd
Tu allan i鈥檙 stiwdio mae鈥檙 adran wisgoedd ac yma mae holl wisgoedd y cymeriadau yn cael eu cadw, eu didoli a鈥檜 golchi. Yma bydd yr actorion yn dod i mewn i mewn i鈥檞 gwisg cymeriad.
Colur
Ar 么l newid i鈥檞 wisg bydd pob actor yn cael colur. Yr adran golur sydd hefyd yn gyfrifol am dorri a steilio gwalltiau a chreu effeithiau arbennig megis briwiau a chleisiau.
Dilynwch ni ar Instagram
Ein Hymchwil o fewn Ffilm a'r Cyfryngau
Mae'r Ysgol yn rhyngddisgyblaethol, yn gydweithredol, yn greadigol ac yn feirniadol.
鈦燙ryfderau/Arbenigeddau'r Ymchwil
Ein cryfderau allweddol yw gwaith y staff yn y diwylliant digidol; y cyfryngau a chyfathrebu perswadiol; a theori ac ymarfer creadigol (ymarfer-fel-ymchwil).
Mae gennym berthynas arbennig o gryf yn sector diwydiannau'r cyfryngau a chreadigol yng Nghymru, ac rydym hefyd yn ymwneud 芒'r economi creadigol yn fwy cyffredinol, yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae hyn yn cyfrannu at nifer o agweddau o'n gweithgareddau ymchwil, ac yn gymorth i hyrwyddo ein gwaith hefyd. Yn gymunedol, rydym yn cymryd rhan mewn projectau a datblygiadau'n rheolaidd. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i'r myfyrwyr, ac mae hefyd yn gymorth i gynyddu effaith gyffredinol ein gweithgareddau a chodi ymwybyddiaeth amdanynt.
Digwyddiadau Ymchwil
Mae gennym ddiwylliant ymchwil bywiog a chyfeillgar. 鈦燤ae ein cyfres ymchwil wythnosol yn cynnwys cydweithwyr o Fangor, myfyrwyr 么l-radd, ac ymchwilwyr ac ymarferwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt, mewn awyrgylch cefnogol, os beirniadol. Rydym hefyd yn gwahodd gwesteion arbennig, ysgolheigion ar ymweliad ac eraill i roi cyflwyniadau ar eu gwaith ymchwil a'u hymarfer.